Mae hyfforddwr tîm dan 20 Cymru, Phil Davies, wedi gwneud deg newid i’r tîm ar gyfer ail gêm Cwpan Ieuenctid y Byd yn erbyn Fiji heno.

Fe enillodd Cymru eu gêm agoriadol yn erbyn Samoa o 22-13 dros y penwythnos gyda chais gan ganolwr y Gweilch, Ashley Beck, yn gwahanu’r ddau dîm.

Bydd Fiji yn her gorfforol arall i’r Cymry cyn iddyn nhw wynebu Seland Newydd yng ngêm olaf y grŵp ddydd Sul.

Newyddion y tîm

Mae chwaraewr rheng ôl y Dreigiau, Toby Faletau, allan o’r gystadleuaeth ar ôl anafu ei bigwrn, gyda blaenasgellwr Llanymddyfri, Edward Siggery, yn cymryd ei le.

Mae yna ddau newid i’r rheng flaen wrth i fachwr Crwydriaid Morgannwg gymryd lle Rhys Williams tra bod Joe Rees o Donmawr yn dechrau o flaen Rhodri Jones.

Fe fydd yna reng ôl gwbl newydd gyda Josh Navidi ar yr ochr agored, Morgan Allen yn cymryd lle Flateau a James Thomas a James King yn cyfnewid safleoedd – Thomas ar yr ochr dywyll a King yn yr ail reng.

Tu ôl i’r sgrym mae mewnwr y Scarlets, Gareth Davies, wedi ei ddewis o flaen Rhys Downes ac mae James Loxton ar yr asgell yn lle Adam Hughes.

Mae yna bartneriaeth gwbl newydd yn y canol hefyd wrth i Ben John a Scott Williams cael eu dewis yn lle Beck ac Owen Williams.

‘Ymarfer yn galed’

Mae hyfforddwr Cymru yn gobeithio bydd mwy o lif yn chwarae ei dîm yn dilyn gêm anodd yn erbyn Samoa.

“R’yn ni wedi ymarfer yn galed yr wythnos yma ac rwy’n gobeithio bod yn fwy llyfn yn erbyn Fiji,” meddai Davies.

“R’yn ni’n disgwyl i Fiji fod yn fwy o her na Samoa oherwydd eu bod nhw’n dîm athletig sy’n pasio’r bêl yn dda.

“Gyda phum gêm i chwarae mewn 16 diwrnod mae cryfder mewn dyfnder yn allweddol, ac mae’n gyfle i roi siawns haeddiannol i rai chwaraewyr gael dangos eu doniau yn erbyn Fiji.”

Carfan Cymru

Dan Fish; Kristian Phillips, Ben John, Scott Williams, James Loxton; Matthew Jarvis, Gareth Davies; Dan Watchurst, Ieuan Davies, Joe Rees, Lloyd Peers, James King, James Thomas, Josh Navidi, Morgan Allen

Eilyddion- Rhys Williams, Will Taylor, Joel Galley, Rhys Jenkins, Rhys Downes, Steven Shingler, Ashley Beck