Fe fydd yr Ymddiriedolaeth Foch Daear yn siomedig ar ôl i Weinidog Materion Gwledig Cymru ddweud y bydd y cynllun i ddifa’r creaduriaid yn parhau nes y bydd llys yn dweud fel arall.
Roedd yr Ymddiriedolaeth wedi gobeithio y byddai’r cynllun yn cael ei ohirio ar ôl iddyn nhw ennill yr hawl i apelio yn ei erbyn.
Dydyn nhw ddim yn derbyn y byddai difa’r moch daear mewn ardal beilot yn Sir Benfro yn atal y diciâu – TB – mewn gwartheg.
Ond heddiw fe ddywedodd y Gweinidog, Elin Jones, y byddai’r difa’n dechrau ac y byddai’n parhau “nes i farnwr mewn llys ddweud wrthon ni na allwn ni barhau”.
Ymateb a chefndir
Er bod yr Ymddiriedolaeth yn dweud y bydden nhw wedi “croesawu” gohirio’r difa moch daear am y tro, “mater i’r gyfraith a’r llysoedd” fydd hynny, meddai Jack Reedy ar eu rhan.
“Mae’n rhaid i ni fod yn amyneddgar a gadael i’r broses gyfreithiol ddigwydd. Mae’n rhaid i ni fod yn ofalus hefyd,” meddai.
Hanfod dadl yr Ymddiriedolaeth yw bod y Llywodraeth wedi methu â phrofi y byddai’r difa’n effeithiol wrth geisio atal y diciâu mewn gwartheg.
Does dim dyddiad wedi’i roi ar gyfer dechrau’r difa, ond mae swyddogion wedi bod yn mapio’r ddaear i nodi ble mae moch daear.