Fe gafodd Gweinidog Cyllid Cymru fuddugoliaeth fach, fach yn ei chyfarfod gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys.
Mae’n golygu rhwng £1 miliwn a £2 filiwn yn llai o doriadau gwario yn ystod y flwyddyn hon.
Ond, yn ôl Jane Hutt, roedd y cyfarfod gyda Danny Alexander wedi bod yn “adeiladol” ac fe gafodd addewid o gyfarfod arall i drafod cyllido tymor hir.
Mae’r gostyngiad bach yn dod wrth i’r Llywodraeth yn Llundain newid eu meddwl tros arian y Gêmau Olympaidd.
Er nad oedd Cymru wedi cael arian i gyfateb i’r gwario ar y Gêmau, fe geisiodd y Trysorlys ei chosbi pan dorrwyd rhywfaint ar y Gyllideb. Mae hynny bellach wedi ei ddileu.
Cyfarfod gyda Holtham
Yr un cam positif arall oedd addewid Danny Alexander i gyfarfod gyda Gerry Holtham, y cyfrifydd sydd wedi arwain Comisiwn i ystyried sut y mae Cymru’n cael ei harian.
Mae wedi argymell newid Fformiwla Barnett, gyda’r posibilrwydd o tua £300 miliwn yn rhagor i Gymru bob blwyddyn, ac mae ar fin cyhoeddi adroddiad arall ar roi hawliau trethu i Lywodraeth y Cynulliad.
Er gwaetha’r cyfarfod heddiw, does dim penderfyniad o hyd a fydd Cymru’n dewis gohirio rhai o’r toriadau eleni a’u hychwanegu at doriadau’r flwyddyn nesa’.
Er bod y Ceidwadwyr yn cynnal dadl yn y Cynulliad heddiw i gondemnio’r Llywodraeth am lusgo’u traed tros y penderfynid, roedd Jane Hutt yn mynnu bod y penderfyniad yn un anodd a bod Danny Alexander yn cydymdeimlo.
Llun: Danny Alexander (Gwifren PA)