Mae’r heddlu’n credu bod ganddyn nhw lun o’r llwynog a ymosododd ar ddau fabi yn Llundain.

Fe gafodd ei dynnu ar ffôn symudol gan un o’r swyddogion heddlu cyntaf i gyrraedd y tŷ yn nwyrain Llundain.

Mae’r llun aneglur yn dangos llwynog ifanc yn syllu ar y swyddog heddlu drwy ffenestr wydr drws symudol.

Wrth i barafeddygon drin Lola ac Isabella Koupparis, sy’n naw mis oed, roedd yr heddlu’n archwilio’u cartref ac fe gafodd y cadno’i weld yn sefyll ar batio’r tŷ.

Y gred yw bod llwynog wedi sleifio i mewn i’r tŷ ac i’r llofft lle’r oedd y ddwy ferch fach – roedd eu mam wedi gweld yr anifail yno.

Dim tystiolaeth bendant

Does gan yr heddlu ddim tystiolaeth bendant mai’r llwynog hwn oedd yn gyfrifol am yr ymosodiad gwaedlyd ac, yn ôl rhai o’r cymdogion, mae llwynogod yn cael eu gweld yn gyson yn strydoedd a gerddi’r ardal.

Erbyn hyn, mae Lola yn llawer gwell, meddai ei nain, er bod pryder o hyd am ei hefaill.

“R’yn ni’n falch iawn am Lola. Ond mae Nick a Pauline (rhieni’r plant) yn dal i bryderu am Isabella,” meddai.

Doedd hi ddim yn siŵr a fyddai Lola’n cael dod o Ysbyty Brenhinol Llundain heddiw – fe fydd hynny’n “dibynnu ar y doctoriaid,” meddai.

Fe gafodd Isabella ei throsglwyddo i Ysbyty Great Ormond Street yng nghanol Llundain nos Lun am ragor o driniaeth.