Fe fydd Llywodraeth Prydain yn ystyried caniatáu i bartneriaid mewnfudwyr gymryd prawf iaith trwy’r Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg.

Fe allai hynny agor y drws i rywun o Batagonia a fyddai’n priodi rhywun o Gymru heb allu dim ond Sbaeneg a Chymraeg.

Heddiw y cyhoeddodd y Swyddfa Gartref eu bod yn cyflymu’r broses o ymestyn profion mynediad i gynnwys partneriaid sydd am symud i’r Deyrnas Unedig.

Cymraeg a Gaeleg hefyd

Yn ôl y Swyddfa Gartref, mae pobol sydd am aros i fyw yn y DU eisoes yn gallu cymryd profion tebyg yn Gymraeg, mewn Gaeleg Albanaidd, neu Saesneg.

Ond maen nhw’n dweud hefyd y gallai’r cynlluniau newydd a gyhoeddwyd heddiw gael eu gwneud yn rhai o ieithoedd eraill y DU.

Amcan y gofyniad iaith yw “hwyluso integreiddio yn y DU”, yn ôl llefarydd o’r Swyddfa Gartref wrth golwg360.

“Fe fyddwn ni hefyd felly yn ystyried cynigion i ganiatáu i fewnfudwyr i arddangos cymhwysedd ieithyddol yn y Gymraeg neu Aeleg Albanaidd,” meddai.

Sgiliau ieithyddol sylfaenol

Mae Llywodraeth Prydain am orfodi’r prawf iaith ar fewnfudwyr o’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sydd am ddod i briodi neu ymuno â’u cymar.

Maen nhw’n dweud bod angen sgiliau iaith i ymdoddi ac ymdopi â bywyd bob dydd.

Mae disgwyl i’r rheol newydd ddod i rym yn yr hydref, ac fe fydd yn effeithio ar fewnfudwyr sydd eisoes yn y wlad.

Mae’r un rheolau eisoes yn bod ar gyfer gweithwyr medrus sy’n cael dod i wledydd Prydain drwy’r system bwyntiau.