Mae pedwar o filwyr yr Unol Daleithiau wedi marw heddiw ar ôl i’r Taliban yn Afghanistan saethu hofrennydd i’r llawr.
Roedd y milwyr yn hedfan dros dalaith Helmand sy’n un o brif gadarnleoedd y Taliban pan gafodd yr hofrennydd ei saethu gyda grenadau.
Daw hyn ar ôl i ddeg o filwyr farw ddydd Llun. Mae’r pedwar marwolaeth ddiweddaraf yn ogystal â marwolaeth milwr NATO o Brydain mewn ffrwydrad yn gynharach yn y dydd wedi mynd â nifer marwolaethau NATO’r mis hwn i 29.
Yn eu plith, roedd Alan Cochran o Lanelwy
Yn ôl llefarydd ar ran llywodraeth talaith Helman, fe gafodd yr hofrennydd ei saethu am hanner dydd heddiw yn Sangin.
Llun: Alan Cochran o Lanelwy