Mae arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan wedi cyhuddo dau o ASau Cymreig y Democratiaid Rhyddfrydol o ragrith tros arfau niwclear.
Yn ôl Elfyn Llwyd, roedd Mark Williams o Geredigion a Roger Williams o Frycheiniog a Maesyfed wedi gwrthod cefnogi cynnig i ailystyried taflegrau Trident – er eu bod wedi cynnwys hynny yn eu taflenni etholiad ac wedi arwyddo cynigion i’r un perwyl.
Plaid Cymru a’r SNP oedd wedi rhoi gwelliant yn y Senedd yn galw am gynnwys Trident mewn adolygiad o wario ar amddiffyn – ond roedd y ddau Ddemocrat wedi pleidleisio yn erbyn.
Dywedodd Elfyn Llwyd AS bod hyn yn mynd yn gwbl groes i’w hymroddiad cynt i adolygu neu wrthwynebu parhau gyda Trident, sy’n debyg o gostio £100 biliwn tros 30 mlynedd.
Roedd Mark Williams, meddai, wedi sôn yn ei bamffledi etholiad am arbed arian Trident ac roedd y ddau wedi arwyddo cynigion yn Nhŷ’r Cyffredin yn galw am gynnwys Trident yn yr adolygiad amddiffyn.
‘Synnu’
“Dw i wedi synnu bod dau o dri AS y Democratiaid Rhyddfrydol wedi mynd yn erbyn eu barn ac addewidion blaenorol y dylai Trident fod yn rhan o’r adolygiad,” meddai Elfyn Llwyd.
“Mae hyn yn lefel o ragrith nad oeddwn i ddim yn credu y byddai’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru yn gallu ei gyrraedd,” meddai Elfyn Llwyd.
“Mae’n glir bod y Democratiaid Rhyddfrydol yn fodlon dweud unrhywbeth i gael eu hethol a gwneud i’r gwrthwyneb pan maen nhw mewn pŵer.”
Fe alwodd ar Mark Williams i gyfadde’ ei fod wedi camarwain ei etholwyr yng Ngheredgion.
Mae Golwg 360 yn aros am ymateb gan Mark Williams.