Mae rheolwr newydd Celtic, Neil Lennon, wedi cadarnhau bod gan y clwb ddiddordeb i arwyddo chwaraewr Caerdydd, Joe Ledley.

Fe gafodd swydd Lennon ei chadarnhau heddiw ac fe ddywedodd yn ei gynhadledd i’r wasg gyntaf ei fod yn awyddus i sicrhau llofnod y chwaraewr canol cae.

Mae Ledley eisoes wedi bod yn Glasgow i weld adnoddau’r clwb ac i gynnal trafodaethau.

Ond mae chwaraewr Caerdydd yn denu diddordeb oddi wrth glybiau eraill gan gynnwys Everton, West Ham, Stoke a Blackburn o’r Uwch Gynghrair yn ogystal â rhoi o glybiau Ewrop megis Roma yn yr Eidal, Panathinaikos yng Ngwlad Groeg a Galatasaray o Dwrci.

Bydd y Cymro’n gallu gadael yr Adar Glas am ddim pan fydd ei gytundeb presennol yn dod i ben mis nesaf. Pe bai Ledley’n arwyddo i glwb y tu allan i Loegr, fyddai Caerdydd ddim yn cael yr un geiniog o iawndal.

Mae Caerdydd yn awyddus i geisio perswadio Joe Ledley i aros yn y brifddinas, ond dyw’r Adar Glas ddim yn gallu cystadlu gyda’r arian y mae rhai o’r clybiau eraill yn gallu ei gynnig.

Llun: Joe Ledley