Mae dau o fowlwyr Morgannwg ar frig rhestrau Pencampwriaeth y Siroedd.

Ar hyn o bryd mae Jim Allenby ar frig y tabl am gyfartaledd bowlio gyda 24 wiced am fymryn tros 17 rhediad yr un.

O’r holl fowlwyr a allai chwarae i dîm Lloegr, y llanc James Harris sydd wedi cymryd mwya’ o wicedi gyda 35 am ychydig tros 18 o rediadau yr un. Dim ond dau fowliwr rhyngwladol sydd wedi cipio mwy o wicedi nag ef.

Mae’r ddau fowliwr yn dechrau tynnu sylw rhyngwladol hefyd, gyd James Harris eisoes wedi ymddangos tros dîm Llewod Lloegr a Chyfarwyddwr Criced Morgannwg, Matthew Maynard, yn galw heddiw am gynnwys Allenby yn y brif garfan.

Canmol Allenby

“Mae Jim wedi bowlio’n wych y tymor hwn. Mae’n gallu bod yn anodd setlo mewn i dîm newydd, ond mae Jim wedi gwneud job dda yn syth. Mae wedi bod yn allweddol i lwyddiant Morgannwg yn y Bencampwriaeth,” meddai.

Mae’r chwaraewr amryddawn hefyd wedi gwneud argraff fawr gyda’r bat ers ymuno gyda’r Dreigiau o Swydd Caerlŷr ac wedi ennill gwobr seren y gêm yn y ddwy gêm agoriadol yng nghystadleuaeth yr Ugain20.

Llun: James Harris