Fe lwyddodd y gwleidydd asgell chwith, Diane Abbott, i gael digon o enwebiadau i gynnig am arweinyddiaeth y Blaid Lafur.

Ar y funud ola’, fe gafodd ddigon o gefnogaeth i groesi’r trothwy o 33 enwebiad, gan olygu bod pump ymgeisydd yn y ras.

Y bore yma hefyd, fe lwyddodd y cyn Ysgrifennydd Iechyd, Andy Burnham, i groesi’r trothwy a herio tri ymgeisydd y Sefydliad Llafur – David ac Ed Miliband ac Ed Balls, y tri wedi bod yn ymgynghorwyr gwleidyddol yn Downing Street cyn dod i’r Senedd.

Hwb

Fe gafodd Diane Abbott hwb wrth i’r ymgeisydd posib arall o’r asgell chwith, John McDonnell, roi’r gorau iddi er mwyn ei helpu hi.

Ar y pryd, roedd ganddo ef 16 enwebiad o’i gymharu ag 11 Diane Abbott – ond mae hi’n debyg o ennill cefnogaeth ehangach trwy fod yn ferch ac yn groenddu ac roedd yntau wedi baeddu’r gambren trwy wneud jôc am ladd Margaret Thatcher.

Roedd rhai o arweinwyr y blaid, gan gynnwys yr Arweinydd dros dro, Harriet Harman, hefyd wedi awgrymu bod eisiau dewis mwy amrywiol.