Wrth i bobol ar hyd a lled Cumbria gofio am y 12 a gafodd eu lladd gan Derrick Bird union wythnos yn ôl, mae’r Prif Weinidog wedi cadarnhau y bydd y Llywodraeth yn edrych eto ar ddeddfau i reoli gynnau.
Fe fydd ymchwiliadau hefyd i ymateb heddlu arfog a thactegau’r heddlu wrth drin achosion o’r fath.
Yn ystod y sesiwn cwestiynau yn Nhŷ’r Cyffredin, fe ddywedodd David Cameron y byddai casgliadau’r ymchwiliadau’n cael eu cyhoeddi ond fe rybuddiodd rhag ymateb rhy frysiog.
Roedd ASau wedi cynnal munud o ddistawrwydd wrth i bobol mewn gwasanaethau yn Cumbria wneud yr un peth.
Y gwasanaethau
Roedd yna wyth gwasanaeth i gyd yn rhai o’r trefi a’r pentrefi a gafodd eu heffeithio waetha’ wrth i Derric Bird yrru o le i le yn saethu ar hap at bobol.
Fe fu gyrwyr tacsi yn Whitehaven, lle’r oedd Derrick Bird yn gweithio a lle cafodd un gyrrwr ei saethu, yn canu eu cyrn i gofio.
Roedd 1,000 o bobol yn y gwasanaeth yno a channoedd yn rhai o’r lleill.
“Dim ond trwy’r cymorth a rown i’n gilydd fel cymuned y gallwn ni wella’r anaf ofnadwy yma i’n cymunedau,” meddai Rheithor Whitehaven, John Bannister.
Llun: Rhan o’r dyrfa yn Egremont (Gwifren PA)