Fe allai llofrudd y ferch fach Sarah Payne ddod o’r carchar ar ôl 40 mlynedd, yn hytrach n 50 fel o’r blaen.
Yn yr Uchel Lys yn Llundain, fe lwyddodd Roy Whiting, 51, i ostwng isafswm ei ddedfryd o ddeng mlynedd.
Ond fe fydd rhaid iddo wneud cais am ryddid, a does dim sicrwydd y bydd yn llwyddo.
Doedd Roy Whiting ddim yn y gwrandawiad ond roedd mam Sarah Payne yno ynghyd â llond y seddi cyhoeddus o wylwyr.
Fe gafodd Roy Whiting, 51 ei garcharu yn 2001 am herwgipio a llofruddio Sarah Payne a oedd yn wyth oed ar y pryd, a hynny o gyffiniau ei chartre’ yng Ngorllewin Sussex.
Fe arweiniodd yr achos at ymgyrch fawr i rieni gael mwy o wybodaeth am bedoffilaid yn eu hardal ac fe arweiniodd at gyfraith newydd.
Yn ôl y barnwr heddiw, yr isafswm priodol fyddi 40 mlynedd – roedd penderfyniad gwreiddiol y llys yn golygu na fyddai Roy Whiting wedi cael ei ystyried am barôl nes bod yn ei nawdegau.
Llun: Sara Payne, mam y ferch fach