Mae o leia’ chwech o bobol wedi marw ar ôl i wrthryfelwyr ymosod ar dryciau’n cludo cerbydau milwrol i fyddinoedd tramor yn Afghanistan.

Fe gafodd saith arall eu hanafu yn y digwyddiad ger prifddinas Pacistan, Islamabad, pan ymosododd gwrthryfelwyr ar y confoi.

Dyma’r ymosodiad cyntaf o’i fath ger dinas Islamabad ac mae’n debyg o achosi pryder gan mai dyma un o’r llwybrau amlwg i gludo nwyddau ac arfau i Afghanistan.

Fe welodd gohebydd ar ran Associated Press tua 20 o lorïau ar dân ar ffordd tua’r gogledd-orllewin a’r ffin ag Afghanistan.

Yr ymosodiad

Roedd tua 15 o wrthryfelwyr wedi ymosod ar y confoi drwy ddefnyddio drylliau a grenadau cyn dechrau llosgi’r tryciau, meddai heddwas lleol.

Doedd yr heddlu ddim yn ymwybodol fod yr ardal yn cael ei defnyddio gan dryciau o’r fath, meddai.

Yn ôl swyddog arall fod y gwrthryfelwyr wedi cyrraedd a dianc mewn dau gar a beic modur.

Llun: Effaith yr ymosodiad (AP Photo)