Mae un o benaethiaid BP wedi dweud heddiw bod y cwmni’n disgwyl atal y “rhan fwyaf” o’r olew sy’n llifo i Gwlff Mecsico erbyn dechrau’r wythnos nesaf.
Mae Doug Suttles yn dweud y dylai’r llif leihau’n sylweddol i “bron ddim byd” erbyn dydd Llun neu ddydd Mawrth nesaf – er bod llefarydd arall ar ran y cwmni’n dweud y gallai gymryd mwy o amser na hynny.
Maen nhw’n bwriadu gosod ail dwmffat – neu dwndish – dros y ffynnon sy’n gollwng yng ngwaelod y môr a thynnu’r olew i long ar yr wyneb.
Mae disgwyl i’r Arlywydd Barack Obama ymweld â’r ardal eto yn ystod y dyddiau nesa’. Eisoes, mae Barack Obama wedi dweud y bydd rhaid i BP dalu am gostau’r trychineb a ddechreuodd ar 20 Ebrill.
‘Llawer mwy’
Ond, er gwaetha’r darogan gobeithiol, mae tîm o wyddonwyr sy’n dadansoddi effaith y trychineb yn credu bod llawer mwy o olew wedi llifo i’r môr nag y mae’r Llywodraeth a BP yn ei gydnabod.
Mae’r ymchwilwyr yn gobeithio cyflwyno’u casgliadau yn ystod y diwrnodau nesaf.
Llun: Ibis gwyn dan olew yn Lousiana (AP Photo)