Mae adfywiad rhyfeddol Morgannwg yn parhau gyda’u hail fuddugoliaeth o’r bron yn yr Ugain20.
Fe lwyddon nhw i guro’r Hampshire Royals o saith wiced gyda phedair pelen i’w sbario ar ôl perfformiad bowlio ardderchog a batiad da arall gan Jim Allenby.
Fe gafodd yntau ei ail hanner cant yn olynol yn y gystadleuaeth a dwy wiced wrth i’r Royals gael eu cadw at ddim ond 114 am 9 – yr ail sgôr isa’ erioed yn erbyn Morgannwg yn y gemau 20 pelawd.
Ond yr hen ben, Robert Croft, oedd y bowliwr mwya’ llwyddiannus gyd dwy wiced am ddim ond 16 rhediad yn ei bedair pelawd.
Fe lwyddodd ef ac Allenby ill dau i gymryd wiced yn eu pelawdau cynta’ i roi pwysau ar Hampshire.
Araf a chyflym
Ar un adeg, roedd y troellwyr yn bowlio o un pen a’r Awstraliad, Shaun Tait, yn cyrraedd cyflymder o 92 milltir yr awr o’r pen arall.
Ar ôl ei fatiad o 52 heb fod allan, roedd hyfforddwr Morgannwg, Matthew Maynard, yn dweud y dylai Jim Allenby gael ei ddewis i Loegr.
Ond fe gafodd gefnogaeth gan bedwar batiwr arall gyda’r cerdyn sgorio’n edrych fel ymarfer cyfri’. O’r top i’r gwaelod, fe gafodd Cosgrove 15, Dalrymple 14, Tom Maynard 13 a Gareth Rees 12.
Llun: Jim Allenby