Fe fydd rhaid i Lywodraeth y Cynulliad ystyried y newyddion am her gyfreithiol arall i’w rhaglen i ddifa moch daear yn Sir Benfro.

Fe fydd rhaid iddyn nhw benderfynu a ydyn nhw’n bwrw ymlaen gyda’r cynllun i geisio dileu’r diciâu – TB – ymhlith gwartheg, er bod yr Ymddiriedolaeth Foch Daear wedi ennill yr hawl i apelio yn ei erbyn.

Yr ymateb cynta’ gan lefarydd oedd y byddai’r difa’n digwydd ond fe fyddan nhw’n dod dan bwysau i oedi nes i’r broses gyfreithiol ddod i ben,

Apelio

Roedd Arolwg Barnwrol fwy na mis yn ôl wedi dyfarnu o blaid y Llywodraeth ond fe
gyhoeddodd yr Ymddiriedolaeth ar unwaith y bydden nhw’n apelio.

Maen nhw bellach wedi cael yr hawl i wrandawiad ac fe allai fod yn fis neu ddau cyn i hwnnw ddigwydd. Y disgwyl oedd y byddai’r broses ddifa yn dechrau o fewn wythnosau.

Yr wythnos ddiwetha’, fe ddywedodd y Gweinidog Cefn Gwlad, Elin Jones, bod y paratoadau’n mynd yn eu blaen a bod y Llywodraeth yn ceisio perswadio llond dwrn o ffermwyr anfoddog i ganiatáu i arolygwyr fynd ar eu tir.

Hanfod dadl yr Ymddiriedolaeth yw bod y Llywodraeth wedi methu â phrofi y byddai’r difa’n effeithiol wrth geisio atal y diciâu mewn gwartheg.

Llun: Mochyn daear (Gwifren PA)