Fe fydd gwasanaethau’n cael eu cynnal ar hyd a lled Cumbria heddiw i gofio’r 12 person a gafodd eu llofruddio gan y dyn tacsi Derrick Bird union wythnos yn ôl.

Fe fydd amryw’n digwydd ger cofebau rhyfel, mae un arall mewn maes parcio yn rhai o’r cymunedau a gafodd eu heffeithio waetha’ gan y lladd.

Mae disgwyl y bydd miloedd o bobol yn mynd i’r saith gwasanaeth ac fe fydd yr ardal gyfan yn cynnal munud o ddistawrwydd am hanner dydd.

Fe ddechreuodd y saethu tua phump y bore pan ymosododd Derrick Bird ar ei efail, David. Ond dim ond tua 10.30 y cafodd yr heddlu eu galw ar ôl i gyfreithiwr, Kevin Commons, gael ei ladd.

Am dair awr ar ôl hynny, fe fu heddlu’n ceisio dilyn a dal y dyn 52 oed wrth iddo saethu pobol ar hap.

Angladdau

Fe fydd dau o’r gwasanaethau’n cael eu cynnal ym mhentrefi Seascale ac Egremont lle cafodd wyth o bobol eu lladd.

Fe ddaeth hi’n amlwg hefyd y bydd yr angladdau cynta’n digwydd yn ddiweddarach yr wythnos hon. Un o’r rhai cynta’ fydd Kevin Commons ac fe fydd angladd y chwaraewr rygbi, Garry Purdham, yn digwydd ddydd Iau.

Llun: Blodau i gofio yn Cumbria (Gwifren PA)