Mae’r Gweinidog Cyllid, Jane Hutt, wedi dweud nad oedd Llywodraeth y Cynulliad wedi cynllunio ar gyfer toriadau yn eu cyllid yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.

A dyw’r Llywodraeth ddim wedi penderfynu o hyd a ydyn nhw am gymryd y cyfle i ohirio’r toriadau diweddara’ tan y flwyddyn nesa’.

Fe fydd Jane Hutt yn mynd i Lundain heddiw i gwrdd â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn y gobaith o gael rhagor o wybodaeth a rhywfaint o roi tros ambell swm penodol o arian.

Mae disgwyl hefyd y bydd hi’n dadlau’r achos eto tros newid fformiwla Barnett i roi gwell chwarae teg i Gymru.

Yr Alban – hawlio buddugoliaeth

Yn yr Alban, mae Llywodraeth yr SNP yn hawlio buddugoliaethau bach trwy ennill ei chyfran hi o’r lefi ar danwydd ffosil a’r Gêmau Olympaidd – cyfanswm o tua £350 miliwm.

Mae disgwyl i Lywodraeth y Cynulliad golli tua £160 miliwn eleni – ei chyfran hi o’r £6 biliwn o doriadau y mae Llywodraeth San Steffan yn eu gwneud.

Ond fe gafodd Prif Weinidogion Cymru, Yr Alban a Gogledd Iwerddon rybudd y bydd toriadau llawer llymach yn dod y flwyddyn nesa’.

Dyna oedd y neges o gyfarfod rhyngddyn nhw a Phrif Weinidog Prydain, David Cameron. Tra oedd Carwyn Jones yno, roedd Jane Hutt yn cymryd ei le yn ateb cwestiynau yn y Cynulliad ac yn gwrthod dweud a fydden nhw’n gofyn am ohirio’r toriadau.

Rhagor o wybodaeth

Fe ddywedodd y Gweinidog Cyllid ei bod hi am gael rhagor o wybodaeth gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, er mwyn i Lywodraeth y Cynulliad gallu gwneud “penderfyniad cyfrifol” ynglŷn â thoriadau eleni neu’r flwyddyn nesaf”.

Fe gafodd ei beirniadu gan arweinydd y Ceidwadwyr, Nick Bourne, am fethu â dweud pryd y byddai’r torri’n digwydd.

Llun: Jane Hutt