Mae cynghrair o grwpiau gwleidyddol yn rheoli Cyngor Sir Ynys Môn bellach.

Plaid Cymru, Llafur, Grŵp Menai a grŵp newydd o’r enw Llais i Fôn a ffurfiwyd gan Arweinydd yr Awdurdod, Clive McGregor, sydd bellach mewn grym.

“Mae’r grwpiau yn uno er mwyn creu sefydlogrwydd gwleidyddol, rhoi’r gorffennol y tu cefn iddynt ac er mwyn ynysu’r aelodau rheiny sydd wedi bod yn rhwystro gwelliannau,”, meddai datganiad gan y gynghrair.

Mae Bwrdd Anffurfiol hefyd wedi cael ei greu i redeg yr Awdurdod a fydd yn “sicrhau bod grwpiau sydd am roi pobl Môn yn gyntaf yn rhannu grym.”

Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cefnogi’r trafodaethau.

Sefydlogrwydd

“Rwy’n credu mai’r gynghrair newydd yma, sy’n cynnwys y rhai hynny sydd wedi ymrwymo i weithio gyda’i gilydd i symud y Cyngor yn ei flaen, yw’r unig ffordd o gael sefydlogrwydd gwleidyddol cynaliadwy ym Môn”, meddai Clive McGregor, sy’n parhau i fod yn Arweinydd.

“Mae llawer ohonom wedi bod ar ddau begwn gwleidyddol gwahanol yn y gorffennol, a heb os, bydd y cytundeb hwn yn syndod i ambell un.

“Ond rydym yn uno i wella’r Cyngor, nid dim ond oherwydd ein bod wedi cael ein gorchymyn i wneud hynny gan Lywodraeth y Cynulliad ond am mai dyma’r peth iawn i wneud.”

Cam anferth

Dywedodd arweinydd llafur yn y Cyngor, y Cynghorydd John Chorlton fod y cytundeb yn “gam anferth ymlaen.”

“Rydym fel aelodau Llafur, ynghyd ag aelodau Grŵp Menai, wedi ymrwymo i’r cynghrair newydd ac am weithio mewn partneriaeth gyda Llais i Fôn a Phlaid Cymru er mwyn sicrhau ei fod yn llwyddo,” meddai.

Condemnio

Roedd Swyddfa Archwilio Cymru wedi condemnio’r cyngor am gecru rhwng cynghorwyr a pherthynas wael rhwng cynghorwyr a swyddogion.

O ganlyniad, fe gafodd Bwrdd Adfer ei benodi o’r tu allan i geisio goruchwylio’r gwaith o wella’r sefyllfa.

Roedd Gweinidog tros Lywodraeth Leol, Carl Sargeant, wedi bygwth y bydd yn cymryd “camre pellach” yn erbyn yr awdurdod os na fyddan nhw’n troi dalen newydd.