Fe fydd aelodau seneddol Ceidwadol yn cael eu gorfodi i bleidleisio tros gynnal refferendwm i newid y drefn bleidleisio.

Er bod rhai’n ffyrnig yn erbyn unrhyw fath o bleidleisio cyfrannol, fe fydd chwipiaid y Llywodraeth yn Nhŷ’r Cyffredin yn mynnu eu bod yn cefnogi.

Fe ddywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, bod y glymblaid yn bwriadu bwrw ymlaen gyda’r broses o ddiwygio dau dŷ’r Senedd ac fe fydd hynny’n cynnwys galw am refferendwm ar AV – y bleidlais ychwanegol.

Fe fydd rhai o’r Democratiaid Rhyddfrydol hefyd yn amheus gan nad ydyn nhw’n ystyried bod AV yn bleidleisio cyfrannol go iawn.

Roedd Nick Clegg yn siarad cyn cael cyfarfod gydag aelodau o glymblaid Take Back Parliament ac fe dderbyniodd ddeiseb gyda 55,000 o enwau’n gofyn am “bleidleisiau teg yn awr”.

‘Cyfle’ meddai Clegg

Yn ôl Nick Clegg, byddai refferendwm yn “gyfle unwaith mewn cenhedlaeth” i symud at drefn decach. Fe fyddai hynny, meddai, yn gam cynta’ at dorri gafael y drefn, y cynta’ sy’n ennill.

Ymhlith y newidiadau eraill, mae bwriad i:

• Ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi, fel bod y rhan fwya’ o’r aelodau’n cael eu hethol.

• Gael tymor sefydlog o bum mlynedd ar gyfer pob senedd.

Y cefndir – y bleidlais AV

Mae AV yn golygu y bydd pleidleiswyr o fewn un sedd yn gosod yr ymgeiswyr mewn trefn. Fe fydd yr ola’ ar ôl pob rownd o gyfri’n cael ei hepgor a’i phleidleisiau ail ddewis yn cael eu cyfri’ a’u hychwanegu at bleidleisiau’r gweddill.