Mae blaenasgellwr y Gleision, Sam Warburton, wedi tynnu’n ôl o garfan Cymru i wynebu Seland Newydd oherwydd anaf i’w ên.
Mae clo’r Gweilch, Ian Gough, wedi cael ei ychwanegu at y garfan yn ei le.
Bu rhaid i Warburton adael y maes yn ystod y gêm yn erbyn De Affrica dydd Sadwrn gydag anaf i’w goes, ond fe ddatgelodd ei fod wedi torri ei ên yn gynharach yn y gêm.
Yn ôl y sylwebyddion, Sam Warburton oedd un o’r chwaraewyr a wnaeth argraff ddydd Sadwrn.
Sgan
“Mae sgan ar ôl y gêm wedi datgelu bod Sam wedi torri ei ên ac fe fydd yr anaf yn ei atal rhag chwarae am bedair wythnos,” meddai ffisiotherapydd Cymru, Mark Davies.
“Fe gafodd yr anaf yn yr hanner cyntaf, ond roedd wedi gallu parhau i chwarae heb sôn am hynny tan ar ôl y gêm.”
Mae gan Gymru Rob McCusker a Gavin Thomas yn y garfan sy’n arbenigo ar chwarae ar yr ochr agored, a hynny sy’n galluogi i hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, alw ar Gough.