Mae disgwyl y bydd yr achos llofruddiaeth yn erbyn Stephen Griffiths yn Bradford yn dechrau ym mis Tachwedd.
Fe ymddangosodd y myfyriwr 40 oed o flaen llys trwy gyswllt fideo heddiw er mwyn trefnu’r amserlen.
Y tro cynta’ iddo ymddangos o flaen ynadon, roedd wedi galw ei hun yn “crosssbow cannibal” ond y tro yma fe roddodd ei enw iawn ac eistedd yn dawel trwy gydol yr hanner awr.
Roedd y lluniau ohono’n cael eu darlledu o Garchar Wakefield lle mae wedi ei gadw ers ei gyhuddo o lofruddio tair gwraig – Suzanne Blamires, Shelley Armitage a Susan Rushworth.
Y cefndir
Roedd wedi ei arestio 24 Mai, y diwrnod cyn i heddlu ddod o hyd i ddarnau o gorff Suzanne Blamires mewn afon.
Wythnos yn ddiweddarach cadarnhawyd eu bod wedi dod o hyd i ddarn o gorff Shelley Armitage hefyd ond does dim sôn o hyd am Susan Rushworth.
Roedd y tair gwraig yn weithwyr rhyw yn y ddinas ac fe fu tîm o fwy n 130 o heddlu yn chwilio yn yr afon a’r ardal olau coch ble’r oedd Stephen Griffiths yn byw.
Llun: Heddlu’n chwilio ger cartre’ Stephen Griffiths (Gwifren PA)