Y canwr a’r digrifwr, Dewi Pws, yw un o’r rhai sydd wedi rhoi teyrnged i’r cerddor Stuart Cable.

“Dw i wedi synnu i glywed y newyddion. Roedd Stuart yn fwy na bywyd,” meddai.

Roedd y ddau wedi dod i adnabod ei gilydd yn dda ar ôl cydweithio ar raglen The Big Welsh Challenge pan oedd Dewi Pws yn helpu cyn ddrymiwr y Stereophonics i ddysgu Cymraeg.

“Roedd Stuart yn ddyn ffantastig ac unigryw- dim ond un Stuart fydd,” meddai ‘Pws’.

“R’on ni’n dathlu ei ben-blwydd un 40 oed rai wythnosau ‘nôl ac fe roedd yn llawn bywyd. Roedd e’n hoff iawn o fod mewn crowd ac yn joio bod yng nghwmni pobol.”

“Roedd Stuart yn Rock and Roll a Rock and roll oedd ei fywyd.”

Cymro gwych – Mike Peters

“Roedd Stuart yn Gymro gwych,” meddai Mike Peters o’r band The Alarm a fu’n rhannu llwyfan gyda Stuart Cable yn ystod yr wythnosau diwetha’.

“Roedd e’n llawn bywyd, yn ddrymiwr ardderchog ac yn dad gwych.

“Fe welais i o efo’i fab wrth baratoi i berfformio ac roedd yn wych gyda fy nau fab i, Dylan ac Evan, hefyd. Mi drefnodd Stuart offer drymiau bach iddynt yn y gyngerdd yng Nghaeredin mis diwethaf”

“Roedd ei fand, Killing for Company wedi cefnogi The Alarm ar daith o amgylch y Deyrnas Unedig y mis diwethaf, felly roedden ni wedi rhannu adegau hapus gyda’n gilydd ar y llwyfan.

“Yr atgof olaf sydd gen i yw ohono’n chwarae ‘Knocking on Heavens Door’ gyda
The Alarm y mis diwethaf yn Academi Lerpwl”

“Roedd Stuart i fod ymuno gyda fi ar gyfer Rhondda Rocks yr haf yma, ac fe fydda’ i yn meddwl amdano pan fyddaf yn chwarae.”

Dyn arbennig – teyrnged Huw Stephens

“Roedd Stuart Cable yn ddyn arbennig iawn; yn ddyn hoffus, talentog a hawddgar iawn,” meddai DJ Radio Un, Huw Stephens.

“Roedd ei gariad tuag at gerddoriaeth roc, ei Gymreictod, Cwmaman a phobol yn heintus.

“Roedd ’da fe amser i bawb, wastad yn barod i sgwrsio gydag unrhyw un, ac roedd ei dalent fel drymiwr gyda’r Stereophonics a’i fand newydd, Killing for Company, yn amlwg.

“Roedd e’n eicon fel drymiwr a Chymro, gyda’i wallt mawr cyrliog a’i dafod yn hongian alla o’i geg, roedd e’n llenwi llwyfan, sgrin a thonfeddi.

“Fe lwyddodd i greu gyrfa hynod lwyddiannus fel darlledwr ar y radio, BBC Wales a radio masnachol, ac fel cyflwynydd teledu.

“Gyda hyn i gyd, roedd e’n cefnogi gymaint o elusennau ac yn barod i roi ei gefnogaeth.
Fe fydd colled fawr ar ei ôl.”

Teyrnged Radio Wales

Mae llefarydd ar ran y BBC hefyd wedi mynegi tristwch tros farwolaethStuart Cable, a gafwyd yn farw yn ei gartref y bore yma.

Ar ôl cael ei orfodi i adael band y Stereophonics yn 2003, yn rhannol oherwydd ei yrfa ddarlledu, fe fu’n gweithio’n gyson i’r Gorfforaeth, yn cyflwyno rhaglenni teledu a radio.

“R’yn ni gyd yn drist ac mewn sioc i’r newyddion am farwolaeth Stuart”, meddai Golygydd Radio Wales, Steve Austins.

“Roedd ei gydweithwyr a’i wrandawyr yn hoff iawn ohono ac fe fydd yn cael ei golli’n fawr iawn.

“R’yn ni’n cydymdeimlo gyda’i deulu a’i ffrindiau ar adeg anodd yma,” ychwanegodd y golygydd.

Does dim esboniad eto am farwolaeth y drymiwr 40 oed ond mae’r heddlu wedi dweud nad oes dim amgylchiadau amheus.

Y newyddion cynta’ fan hyn

Llun: Stuart Cable adeg ffilmio un o’i gyfresi teledu