Mae Stuart Cable, cyn ddrymiwr y band Cymreig, Stereophonics, wedi cael ei gael yn farw yn ei gartref.
Dyw achos y farwolaeth ddim wedi cael ei gadarnhau eto yn ôl Heddlu De Cymru, ond dydyn nhw ddim yn ystyried ei fod yn amheus. Mae aelodau agosa’r teulu wedi cael gwybod.
Cyhoeddodd Heddlu De Cymru yn swyddogol fod dyn 40 oed wedi cael ei ddarganfod yn farw mewn cyfeiriad yn Llwydcoed, Aberdâr bore ‘ma ond mae’r BBC – a oedd yn darlledu rhaglen radio ganddo – wedi enwi’r cerddor.
Roedd Stuart Cable wedi cael y sac gan y Stereophonics yn 2003 ac roedd y band wedi cynnal gig mawr yng Nghaerdydd dros y Sul. Fe ddaethpwyd o hyd i gorff Stuart Cable tua hanner awr wedi pump y bore yma.
Yn ôl mediawales, mae ei fam, Mabel, 79, yn dweud ei bod yn methu â dygymod a’r newyddion a hithau’n meddwl ei fod yn setlo ar ôl blynyddoedd o deithio.
Roedd Stuart Cable wedi cymryd rhan mewn rhaglen ddysgu Cymraeg gyda’r BBC.