Harlequins 50 Crusaders 22
Roedd yna funud o ddistawrwydd ar ddechrau gêm y Croesgadwyr a’r Harlequins neithiwr, o barch i gapten y tîm o Lundain a gollodd ei frawd yn lladdfa Cumbria.
Roedd crys Rob Purdham wedi ei hongian ar ei fachyn arferol yn stafell newid y tîm cartre’ ac fe gyflwynson nhw eu buddugoliaeth gyfforddus iddo ef a’i frawd.
Roedd ei frawd, Garry, hefyd wedi bod yn chwaraewr rygbi cynghrair gyda Whitehaven a Workington ac roedd yn un o’r 12 a saethwyd yn farw gan Derrick Bird ddydd Mercher.
Dechrau gwael
Er bod y Croesgadwyr wedi rheoli’r chwarae yn llwyr am y deng munud cynta’, fe barhaodd eu cyfres o ddechreuadau gwael.
Fe sgoriodd yr Harlequins gyda’u hymosodiad cynta’ – y cynta’ o bedwar cais i’r cefnwr Luke Dorn – ac roedden nhw 20-6 ar y blaen ar yr hanner.
Fe aeth pethau’n waeth i’r tîm o Wrecsam wrth i’r Harlequins groesi’r hanner cant cyn i ddau gais hwyr i’r Croesgadwyr barchuso ychydig ar bethau.
Cyn y gêm, roedd hyfforddwr y Croesgadwyr, Brian Noble, wedi dweud nad oedd yn poeni gormod am eu harfer o ddechrau’n wael – fe fydd yn poeni ychydig mwy erbyn hyn.
Sgorwyr ceisiau’r Croesgadwyr oedd Clifton Schifcoske, Jordan Chan, Peter Lipton a Rhys Hanbury.
Llun: Nodyn gan rieni Garry Purdham i nodi’r fan ble bu farw (Gwifren PA)