Fe allai saith dyn wynebu hyd at ddwy flynedd o garchar am un o’r trychinebau diwydiannol mwya’ yn hanes y byd.
Fe gafwyd y saith yn euog o ‘farwolaeth trwy esgeulustod’ yn sgil trychineb Bhopal yn India yn 1984 ond dyw penaethiaid y prif gwmni Americanaidd ddim wedi cael eu herlyn o gwbl.
Y gred yw bod 4,000 wedi marw ar unwaith pan ollyngodd nwyon gwenwynig o waith cemegol Union Carbide a bod tuag 11,000 wedi marw o’r effeithiau ers hynny.
Roedd yna dystiolaeth bod trefniadau iechyd a diogelwch yn y gwaith yn ddychrynllyd pan ollyngodd nwy o’r enw methyl isocyanate gan achosi llygredd sy’n parhau hyd heddiw ac yn achosi salwch ymhlith pobol a phlant.
Protestio
Roedd yna filoedd o berthnasau a dioddefwyr y tu allan i’r llys lleol yn Madhya Pradesh yn protestio bod y dedfrydau’n rhy ychydig ac yn rhy hwyr.
Mae perchnogion newydd Union Carbide, y Dow Chemical Company, yn dweud bod eu cyfrifoldeb nhw wedi ei glirio pan dalwyd iawndal o $470 miliwn yn 1989.
Swyddogion o gwmni Union Carbide India yw’r saith ond, er gwaetha’ warant i’w ddwyn i gyfraith, dyw Prif Weithredwr Union Carbide ei hun ar y pryd, Warren Anderson, ddim wedi cael ei erlyn.
Llun: Ffatri Union Carbide yn Bhopal (Luca Frediani – CCA20)