Mae mudiad dyngarol wedi cyhuddo’r Unol Daleithiau o ddefnyddio bomiau sy’n fwriadol yn lladd pobol gyffredin mewn ymosodiad yn Yemen y llynedd.

Mae Amnest Ryngwladol wedi galw ar yr Americanwyr i egluro sut yr oedden nhw wedi ceisio diogelu’r boblogaeth wrth ymosod ar gefnogwyr al Qaida yn ardal al-Majalah yn nhalaith Abyan.

Maen nhw’n honni fod bomiau clwstwr wedi’u defnyddio a bod y rheiny’n cynyddu’r perygl o anafu neu ladd pobol gyffredin.

Digwyddodd yr ymosodiad ar 17 Rhagfyr ac, yn ôl pwyllgor seneddol yn Yemen, lladdwyd 41 o bobol gyffredin, yn ogystal â 34 o’r gwrthryfelwyr.

Ffotograffau

Mae Amnest yn honni fod ganddyn nhw bum ffotograff sy’n dangos darnau o rocedi sy’n gallu cael eu saethu o long neu long danfor, ac sy’n gwasgaru ar draws ardal eang.

Maen nhw’n honni mai dim ond lluoedd yr Unol Daleithiau sy’n eu defnyddio.

“Mae’r ffaith fod cymaint o’r dioddefwyr yn wragedd a phlant yn dangos bod yr ymosodiad yn un ofnadwy o anghyfrifol”, meddai Philip Luther o Amnest. “Yn enwedig yn sgil y defnydd tebyg o arfau clwstwr.”

Dyw Amnest ddim wedi dweud sut y cawson nhw’r lluniau, a dydyn nhw ddim wedi cael eu dilysu eto.

Y cefndir

Mae o leiaf 30 o wledydd wedi cytuno i beidio â defnyddio arfau clwstwr, ond mae’r Unol Daleithiau wedi gwrthod â gwneud hynny.

Llun: Protest yn erbyn bomiau clwstwr yn 2008 (pxkls-CCA2.0)