Mae dwy ferch naw mis oed yn ddifrifol wael ar ôl honiadau bod llwynog wedi ymosod arnyn nhw yn eu cartref yn Llundain.
Mae’n ymddangos bod y cadno wedi mynd i mewn trwy ddrws oedd yn agored oherwydd y gwres a mynd i’r ystafell wely ble’r oedd Lola ac Isabella Koupparis yn cysgu.
Roedd eu brawd 4 oed yn cysgu yn un o’r llofftydd hefyd ond chafodd e ddim niwed. Roedd y tad a’r fam yn gwylio’r teledu ar y pryd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad nos Sadwrn yn Homerton yng ngogledd Llundain – mae yna gynnydd mawr wedi bod mewn llwynogod dinesig ac fe gafwyd ymosodiadau tebyg o’r blaen.
Yn ddiweddarach, fe gafodd trapiau eu gosod yng ngardd y tŷ ac fe gafodd llwynog ei ddal a’i ladd.