Mae llynges Israel yn honni eu bod wedi atal ymosodiad terfysgol ar ôl iddyn nhw saethu pedwar o Balesteiniaid yn farw yn y môr ger Gaza.

Does dim manylion ynglŷn â natur y bygythiad honedig, ond mae’n debyg fod y rhai a gafodd eu lladd yn gwisgo siwtiau deifio.

Mae heddlu llynges Palesteina wedi dweud bod dau ddyn arall ar goll.

‘Credadwy a thryloyw’

Daw’r digwyddiad wrth i Ysgrifennydd Tramor Prydain, William Hague, alw ar Israel i gynnal ymchwiliad “credadwy a thryloyw” i’r marwolaethau ar y llongau dyngarol wythnos union yn ôl.

Roedd milwyr Israel wedi saethu naw o bobol yn farw ar long o Dwrci – un o chwech oedd yn ceisio torri trwy flocâd llynges Israel i fynd â nwyddau i’r Palesteiniaid yn Gaza.

Fe ddylai’r gymuned ryngwladol gael ei chynrychioli mewn ymchwiliad, meddai William Hague.

Y seithfed llong

Roedd seithfed llong ddyngarol wedi hwylio tuag at Gaza yn dilyn marwolaethau wythnos ddiwethaf.

Cafodd hithau eu rhwystro ddydd Sadwrn, a’i chludo i harbwr yn Israel. Mae’r teithwyr wedi cael eu hanfon o’r wlad.

Mudiad Rhyddid Gaza sy’n anfon y llongau ac maen nhw wedi dweud y bydd eu hymgyrch yn parhau.

Cefndir

Mae Rhyddid Gaza’n gwrthwynebu’r blocâd, sy’n rhwystro nwyddau rhag cael eu hanfon yn uniongyrchol i Gaza.

Amcan Israel yw atal arfau rhag cyrraedd Hamas, y grŵp milwrol sy’n rheoli Gaza.

Ond mae sefydliadau dyngarol yn dweud fod y Palesteiniaid yn Gaza yn dioddef o brinder bwyd ac adnoddau hanfodol.

Yn dilyn y marwolaethau wythnos ddiwethaf, mae Israel wedi bod o dan bwysau rhyngwladol i roi’r gorau i’r blocâd, neu ei lacio.

Llun: Protest yng Nghaeredin yn erbyn y digwyddiadau yn Gsza (Gwifren PA)