Mae ymgyrch wedi dechrau i brotestio yn erbyn archfarchnadoedd a busnesau yng Nghymru sy’n gwneud sbloet o gefnogi Lloegr yng Nghwpan Bêl-droed y Byd.

Mae’n gofyn am wybodaeth am fusnesau sy’n hyrwyddo nwyddau gyda baner Lloegr arnyn nhw ac wedyn yn galw ar gefnogwyr i gwyno wrth y busnesau a gwrthod siopa yno.

Mae’r ymgyrch yn cael ei chynnal ar y wefan gymdeithasol Facebook ac yn pwysleisio nad yw hi yn erbyn Lloegr, na Saeson, na hyd yn oed y tîm pêl-droed.

Yr hyn y maen nhw’n ei wrthwynebu “yw’r ffaith bod busnesau mawr fel archfarchnadoedd, a chwmnïau eraill yng Nghymru yn gwthio ac yn hyrwyddo nwyddau San Siôr yma yng Nghymru bob tro y mae Lloegr yn chwarae mewn twrnament rhyngwladol”.

“Nid yw Cymru yn rhan o Loegr!” meddai’r neges. “Mae Cymru yn wlad, mae gennym dîm pêl-droed ein hunan, a’n baner ein hunan, y Ddraig Goch! Cadwch faner San Siôr Lloegr allan o Gymru!”