Mae amheuon newydd wedi codi am y posibilrwydd o gynnal refferendwm datganoli yn yr hydref.

Yn ôl rhaglen deledu’r BBC, y Politics Show, mae prif ymgynghorydd cyfreithiol y Cynulliad yn awgrymu nad oes digon o amser i wneud y trefniadau erbyn hynny.

Mae’r rhaglen yn dweud eu bod wedi gweld dogfen gan Keith Bush, sy’n rhybuddio am y peryglon o geisio rhuthro’r broses.

Os yw’r broses ymgynghori’n rhy fyr, meddai, mae yna beryg o her gyfreithiol ac mae gwyliau’r Senedd a’r angen i drafod union eiriau’r cwestiwn yn debyg o arafu’r gwaith.

Mae’r AS c AC Torïaidd, Alun Cairns, wedi defnyddio’r ddogfen i ymosod ar arweinwyr y Llywodraeth yng Nghymru.

Roedd yn cyhuddo’r Prif Weinidog, Carwyn Jones, a’i ddirprwy, Ieuan Wyn Jones, yn gwneud sŵn am y dyddiad, gan wybod bod y swyddog cyfreithiol yn dweud fel arall.