Yr hen warior, Robert Croft, oedd y seren – gyda’r bêl a’r bat – wrth i Forgannwg fynd i sefyllfa gry’ iawn yn erbyn tîm teithio ‘A’ India’r Gorllewin.
Mae’r troellwr erbyn hyn o fewn tair wiced i’r 1,000 ar ôl cymryd 4 wiced am 39 ym matiad cynta’r ymwelwyr.
Trwy eu cadw nhw i ddim ond 151, fe aeth Morgannwg i mewn i’r ail fatiad yng Nghaerdydd ar y blaen o 100.
Ond roedd yna drafferthion i’r tîm cartref hefyd, gyda’r ddau agorwr yn mynd heb sgorio a’r batiad yn dirywio i 46-5.
Ond, gyda chymorth Nick James, fe lwyddodd Robert Croft i sefydlogi pethau a dechrau ymosod.
Fe orffennodd ar 33 heb fod allan, gyda Nick James ar 36 a Morgannwg ar y blaen o 236.
Llun: Robert Croft