Fe fydd toriadau gwario’r misoedd nesa’n effeithio ar ffordd o fyw ac yn cael effaith am flynyddoedd.
Dyna fydd neges y Prif Weinidog, David Cameron, mewn araith ar yr economi’n ddiweddarach heddiw.
Fe fydd yn dadlau fod y sefyllfa economaidd yn waeth n’r disgwyl a bod rhaid gweithredu mewn ffordd radical, gyda’r pwyslais ar dorri gwario yn hytrach na chodi trethi.
Fory, mae disgwyl y bydd y Canghellor George Osborne a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, Danny Alexander, yn egluro’r egwyddorion y tu cefn i’r Gyllideb ymhen pythefnos a’r arolwg ar wario cyhoeddus yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae’r Ceidwadwyr yn dweud bod hynny’n fwy nag ystyried gwario cyhoeddus a’i fod hefyd yn cynnwys newid y ffordd y mae llywodraeth yn gwethio.
Cefnogaeth
Mae’r Prif Weinidog yn dweud ei fod eisiau bod yn agored ynglŷn â’r toriadau, er mwyn cael cefnogaeth y wlad.
“Fe fydd y ffordd y gwnawn ni hyn yn effeithio ar ein heconomi, ar ein cymdeithas a hyd yn oed ein holl ffordd o fyw,” meddai.
“Fe fydd yr effeithiau’n aros gyda ni am flynyddoedd, efallai am ddegawdau.”
Llafur yn rhybuddio
Mae Llafur yn condemnio agwedd y Llywodraeth Glymblaid, gan ddweud bod angen i doriadau fod yn deg ac yn gwarchod yr adferiad economaidd.