Roedd y dyn a fu farw mewn afon ger Machynlleth ar fin dod yn dad am y trydydd tro.

Roedd Philip Jack, 45 oed o Benbedw – Birkenhead – wedi neidio i mewn i’r afon i achub un o’i ddwy ferch ond wedi mynd i drafferthion ei hun.

“Roedd yn dad, mab a ffrind gwych,” meddai ei deulu mewn datganiad. “Ryden ni’n ei garu’n fawr.”

Roedd y teulu’n aros mewn gwersyll carafanau sydd ar lan yr afon heb fod ymhell o ffordd yr A470 i’r gogledd o Bantperthog ac yn agos at y Ganolfan Dechnoleg Amgen.

Mae’n ymddangos bod y ferch fach wedi mynd i’r afon i geisio achub ei chi, ond doedd hi ddim yn gallu nofio. Fe lwyddodd Philip Jack i’w chodi allan o’r dŵr ond, er ei fod yn nofiwr profiadol, fe aeth i drafferthion ei hun.

Erbyn i’r gwasanaethau achub ei gyrraedd, doedd dim modd ei achub.

Llun: Afon Dulas – llun o’r afon yn uwch i fyny, ger Aberllefenni; mae’n llifo trwy Gorris a Phantperthog