Daeth y Cymro Rhys Davies yn ail ym Mhencampwriaeth Golff Agored Cymru yn y Celtic Manor heddiw a dweud ei fod o “wedi mwynhau pob eiliad”.

Dyma oedd Daith Ewropeaidd cyntaf y dyn 25 oed o Ben y Bont yr Ogwr a gorffennodd 12 dan y safon, tair ergyd y tu ôl i’r enillydd Graeme McDowell.

Ond bydd Rhys Davies yn siŵr o adael ei farc ar y twrnamaint eleni, ac o bosib ar gapten y Cwpan Ryder, Colin Montgomerie.

Cyn gapten y Cwpan Ryder Ian Woosnam yw’r unig Gymro i ennill Taith Ewropeaidd yng Nghymru, ond bydd tro Rhys Davies yn siŵr o ddod.

“Fe wthiais i’n rhy galed ddoe, ac roeddwn i’n gwybod hynny, felly fe es i allan heddiw ac ymlacio a derbyn unrhyw beth fyddai’n digwydd,” meddai Rhys Davies.

“Roeddwn i’n gwybod fy mod i’n chwarae yn dda. Wnes i ddim meddwl y byddwn i’n ennill, ond edrychais i ar y bwrdd sgôr ac roeddwn i ar y brig, oedd yn dipyn o syrpreis.

“Rydw i wedi bod eisiau chwarae mewn pencampwriaeth mawr erioed. Roeddwn i eisiau dechrau mor gynnar â phosib yn fy ngyrfa fel fy mod i’n cael cymaint o brofiad a phosib.”

Dywedodd nad oedd o’n meddwl am y Cwpan Ryder. “Mae’n gynnar iawn yn fy ngyrfa eto, ac rydw i’n dda iawn am gymryd pethau o wythnos i wythnos,” meddai.

“Rydw i wedi gwella lot mewn cyfnod byr, ond os ydw i’n onest, rydw i wedi teimlo erioed fy mod i’n gallu gwneud ac y byddwn i’n gwneud.

“Roeddwn i’n chwarae’n dda iawn pan nad oeddwn i’n broffesiynol, ond doeddwn i ddim yn chwarae cystal yn syth ar ôl troi’n broffesiynol.

“Mae hynny’n aml yn digwydd pan mae pobol yn mynd yn broffesiynol. Mae yna beth mae’n rhaid addasu iddyn nhw, ac mae’r safon cymaint yn uwch.

“Ond rydw i’n teimlo fy mod i wedi gwella, bob blwyddyn, ers oeddwn i tua 15 oed. A dyna’r oll ydw i eisiau ei wneud.”