Mae’r darlledydd John Simpson wedi dweud yng Ngŵyl y Gelli heddiw ei fod o’n credu bod y llywodraeth glymblaid wedi achub y BBC.

“Roeddwn i’n credu tai 8 Mawrth neu beth bynnag bod dyddiau’r BBC fel darlledydd gwasanaeth cyhoeddus yn dod i ben,” meddai golygydd materion rhyngwladol y gorfforaeth.

“Ddim ar ben fel corfforaeth am ei fod o’n gwneud elw, ac yn un o’r unig bethau o’r wlad yma sy’n cael ei adnabod ledled y byd.

“Ond roeddwn i’n meddwl ei fod o ar ben fel darlledydd gwasanaeth cyhoeddus oherwydd mai polisi Llafur tuag ato oedd torri darnau allan o’r ffi leisans a’u rhoi nhw i gyrff eraill.

“Er enghraifft, bob tro’r ydych chi’n colli amynedd gyda’r BBC rhowch mwy o’i arian i Channel 4. Mae’n ffordd o reoli, dim mwy, dim llai.”

Dywedodd fod polisi’r Ceidwadwyr tuag at y gorfforaeth hefyd wedi ei dristáu.

“Polisi’r Ceidwadwyr oedd eu bod nhw am fynd i mewn a gwneud pethau a chyhoeddi faint oedd pawb yn ennill ac roedd yna gwestiwn mawr ynglŷn â’r ffi leisans,” meddai.

“Doedden nhw ddim am wneud dim byd tan 2012 ond roedd yna lot o gwestiynau wedyn.”

Dywedodd ei fod o ychydig yn fwy gobeithiol ynglŷn â dyfodol y BBC yn sgil ffurfio’r llywodraeth glymblaid yn San Steffan.

“Pan mae gennych chi arweinydd Ceidwadol yn dod i rym gan ddweud ei fod o’n gyfaill i’r BBC, efallai nad ydy o’n dweud lot, ond mae o yn cynnig rywfaint o obaith.”

Ychwanegodd ei fod o dal yn credu fod gan bapurau newydd le yn y byd modern ond bod pobol yn fwy tebygol o ddewis papurau newydd oedd yn ategu eu barn nhw eu hunain.

“Dro ar ôl tro mae pobol wedi dweud ei bod hi ar ben i bapurau newydd. Daeth y radio a dywedodd pobol bod dyddiau papurau newydd ar ben. Wedyn y teledu, wedyn y rhyngrwyd.

“Mae’r rhyngrwyd wedi eu brifo nhw o ran darllenwyr ond dydi eu dydd nhw ddim ar ben eto.”