Fe fyddai perthnasau Derrick Bird yn ymddiheuro i deuluoedd ei ddioddefwyr “pe bai gyda nhw’r cryfder” meddai ffrind agos yn ystod seremoni coffa i gofio’r meirw.

Dywedodd y Parch. Jim Marshall, curad Eglwys Sant Mihangel yn Lamplugh, nad oedd y teulu yn nabod “yn ddyn a welwyd dydd Mercher”.

Roedd y teulu yn teimlo “tristwch erchyll” meddai.

Lladdodd Derrick Bird, 52 oed, 12 o bobol ac anafu 11 arall yn Cumbria cyn ei ladd ei hun.

“Pe bai gan y teulu’r cryfder, fe fydden nhw wedi mynd i weld teuluoedd pob un o’r bobol gafodd eu lladd ac ymddiheuro,” meddai Jim Marshall.

“Dyna pa mor gryf maen nhw’n teimlo am y peth. Wedi dweud hynny maen nhw dal yn parchu eu tad a mab a brawd am nad dyna’r dyn wnaethon nhw ei weld a chlywed amdano ddydd Mercher.

“Am 52 mlynedd fe wnaethon nhw weld un dyn, am ychydig oriau fe glywon nhw am un arall.”

Roedd mam Derrick Bird, Mary, wedi cael gwybod beth wnaeth ei mab ond doedd hi “ddim yn gwybod rhai o’r manylion”.

“Roedd hi wedi cael braw. Mae hi wedi ei syfrdanu a dydi hi dal ddim yn gallu derbyn y peth. Dydi hi ddim eisiau troi’r teledu ymlaen nawr.”

Darllenodd Jim Marshall ddatganiad gan deulu Derrick Bird yn dweud nad oedden nhw’n “gallu cynnig unrhyw esboniad pam bod Derrick wedi cyflawni’r troseddau”.