Dywedodd asgellwr 18 oed Cymru, Tom Prydie ei fod o’n “deimlad gwych” sgorio ei gais cyntaf dros y tim rhynwgadol yn erbyn De Affrica, er bod y canlyniad yn siom.

Asgellwr y Gweilch yw chwaraewr ifancaf tîm rygbi Cymru erioed a dyma oedd ei ail gap yn unig ar ôl herio’r Eidal yn gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn gynharach eleni.

Roedd De Affrica yn wrthwynebwyr dipyn caletach ond chwaraeodd Tom Prydie yn dda ac fe sgoriodd gais hwyr ddaeth a Chymru o fewn trwch blewyn i ennill y gêm.

“Roeddwn i’n edrych ymlaen at fy nghais cyntaf – roedd o’n deimlad rhyfeddol,” meddai.

“Roedd o’n gêm anodd gyda lot o redeg, ac roedd ffitrwydd yn rhan fawr ohoni.

“Rydw i’n dechrau dod i arfer gyda bod yn y garfan. Mae o dal yn rhyfedd chwarae dros Gymru, ond mae o’n brofiad gwych.”

Er hynny dyma oedd y chweched tro i Gymru golli mewn 10 gem a dywedodd Prydie ei fod o’r un mor rhwystredig â phawb arall.

“Roedden ni mor agos, ond fe wnaethon nhw daflu’r gêm i ffwrdd,” meddai.

“Mae pawb yn siomedig iawn, a does dim lot mwy na hynny i’w ddweud. Fe fydden ni’n adolygu’r gêm, yna mynd i Seland Newydd.”