Fe fydd Cymru yn beryglus yng Nghwpan y Byd Rygbi’r flwyddyn nesaf er gwaethaf eu methiant parhaol i faeddu De Affrica.
Dyna farn un o chwaraewyr y Boks, Jaque Fourie, ar ôl i’w dim faeddu Cymru 34-31 yn Stadiwm y Mileniwm.
Ond dywedodd capten y Springboks, John Smit bod perfformiad ei dim ei hun “yn reit ddifflach”. Bydd Cymru yn wynebu’r Crysau Duon yn Seland Newydd yn hwyrach yn y mis.
Mae Cymru wedi chwarae y tri tîm mwyaf o hemisffer y de wyth gwaith yn ystod amser Warren Gatland a dim ond un o’r gemau rheini, yn erbyn Awstralia, maen nhw wedi ei ennill.
Ond dywedodd Jaque Fourie na ddylen nhw ddiystyru Cymru cyn y gem grŵp hollbwysig yng Nghwpan y Byd Rygbi 2011.
Fe fydd y Pencampwyr Byd De Affrica yn dechrau eu hymgyrch yn erbyn Cymru yn Wellington ar 11 Medi flwyddyn nesaf.
“Bydd Cymru yn dîm peryglus,” meddai. “Yn yr 20 munud cyntaf a’r 20 munud olaf ddoe roedden nhw’n beryglus. Roedden ni mewn lle anodd.
“Rydw i’n meddwl y bydden nhw’n dîm anodd eu curo yng Nghwpan y Byd.
“Fe gafodd y tîm dipyn o sioc yn yr 20 munud cyntaf yna. Roedd rhaid i ni fynd yn ôl i wneud y pethau syml yn well, a thrio peidio dychryn gormod.”
‘Dechrau’n dda – ond…’
Dywedodd prop Cymru, Adam Jones fod yn rhai i Gymru ddechrau chwarae yn dda drwy gydol gemau yn hytrach nag mewn cyfnodau yn unig.
“Rhaid i ni ddechrau dysgu sut i ennill y gemau yma, ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yna,” meddai Adam Jones.
“R’yn ni’n agos, ond dydyn ni ddim cweit yn gallu cau pen y mwdwl.
“Yn yr 20 munud cyntaf roedden ni’n wych, ond wedyn fe wnaethon ni lacio am ryw reswm. Os ydych chi’n rhoi cyfle i dîm fel De Affrica maen nhw’n mynd i sgorio pwyntiau.
“Fe ddechreuon ni’n dda ac roedd hynny’n braf! Yn enwedig ar ôl rhai o’n gemau ni yn y Chwe Gwlad. Ond roedden ni’n wirion ar adegau, yn rhoi ciciau cosb di angen iddyn nhw.
“Dyw hi ddim yn mynd yn anoddach na thaith i Seland Newydd, ond mae’n rhaid i ni fwynhau’r profiad, yn hytrach na phoeni gormod.”