Nofel gan Caryl Lewis, cyfrol o farddoniaeth gan Hywel Griffiths, a thywyslyfr gan Dr John Davies fydd yn cystadlu am wobr Llyfr y Flwyddyn eleni.
Cyhoeddwyd pa dair cyfrol o’r deg gwreiddiol oedd ar y Rhestr Fer yng Ngŵyl y Gelli pnawn ma.
Bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi mewn Seremoni Wobrwyo yng Ngwesty Dewi Sant, Bae Caerdydd, nos Fercher 30 Mehefin 2010.
Y cyfrolau ar y Rhestr Fer Gymraeg yw: Naw Mis gan Caryl Lewis, Banerog gan Hywel Griffiths, a Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw gan John Davies.
Cafodd pob un o’r cyfrolau sydd ar y brig eu cyhoeddi gan y Lolfa.
Fydd ddim gwobr Llyfr y Flwyddyn i’r saith cyfrol arall wnaeth ddim cyrraedd y rhestr fer, ond mae yna dal amser i bleidleisio dros enillydd Gwobr Barn y Bobol ar wefan Golwg 360.
John Gwilym Jones, Aled Lewis Evans, a Branwen Gwyn yw beirniaid y wobr Gymreig eleni.
“Nid gorchwyl hawdd oedd dewis a dethol cyfrolau ar gyfer y Rhestr Fer, ond credwn, fel trindod y panel beirniaid, fod ynddi groesdoriad (anfwriadol!) sy’n dangos rhychwant o ddoniau ein hawduron a’n beirdd,” meddai Branwen Gwyn.
“Dylem fel Cymry Cymraeg ymfalchïo yn ein llenorion dawnus, a’u hannog a’u cefnogi trwy brynu a gwerthfawrogi eu deunydd.
“Mae hi wedi bod yn bleser a braint cael cydweithio gyda’r ddau feirniad arall, a hyderaf y bydd y cyhoedd yr un mor frwd â ni am y cyhoeddiadau sydd wedi gwneud cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn eleni yn un gofiadwy dros ben.”
Y cyfrolau Saesneg eu hiaith sydd wedi llwyddo i gyrraedd y Rhestr Fer Saesneg yw: Carry Me Home gan Terri Wiltshire, I Spy Pinhole Eye gan Philip Gross, a The Compilation of the Four Branches of the Mabinogi gan Nikolai Tolstoy.
Gwobrwyir £10,000 yr un i’r ddau enillydd – un yn Gymraeg ac un yn Saesneg – yn ogystal â £1,000 yr un i’r pedwar a ddaw yn agos at y brig.
Gweinyddir gwobr Llyfr y Flwyddyn gan yr Academi ac fe’i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.
Mwy am yr awduron
Nofelydd yw Caryl Lewis a gafodd ei magu ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu creadigol.
Mae wedi cyhoeddi naw o nofelau, gan gynnwys Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa) a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn yn 2005. Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis ac effaith hynny ar ei theulu a’i ffrindiau.
Maged Hywel Griffiths ger Caerfyrddin. Graddiodd o Brifysgol Aberystwyth ac yn ddiweddar mae wedi derbyn Doethuriaeth mewn daearyddiaeth ffisegol. Mae’n darlithio trwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch 2008 gyda’i gasgliad o gerddi, Stryd Pleser. Banerog yw ei gasgliad cyntaf o gerddi; mae’r pynciau’n amrywio o wleidyddiaeth ac iaith i dirwedd, hanes a phobl Cymru.
Hanesydd Cymreig yw John Davies o Gwm Rhondda. Daeth yn aelod o Adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth a bu’n Warden Neuadd Pantycelyn am ddeunaw mlynedd.
Mae wedi cyhoeddi nifer fawr o gyfrolau, gan gynnwys ei lyfr enwog Hanes Cymru (1989). Mae’r gyfrol Cymru: Y 100 lle i’w gweld cyn marw yn cynnwys detholiad o gant o lefydd y dylem ymweld â nhw, ym marn yr hanesydd.