Dyw traean o gefnogwyr Lloegr ddim yn mynd i wylio unrhyw un o’u gemau yn ystod Cwpan y Byd, yn ôl arolwg newydd gan gwmni IGN Direct.

Er bod y rhan fwyaf o bobol Brasil yn credu mai eu tîm nhw eith a hi, mai llai nag un o bob tri o bobol Lloegr yn meddwl y bydden nhw’n dathlu buddugoliaeth ar ddiwedd y twrnamaint.

Mae’r arolwg barn holodd 6,000 o oedolion mewn 12 gwlad yn dangos y bydd bron a bod i bawb ym Mrasil yn dilyn hynt a helynt y tîm cenedlaethol.

Fe fydd naw o bob deg o bobol yr Ariannin a Portiwgal yn dilyn eu tîm, a bydd pedwar o bob pump o bobol Sbaen yn gwylio eu tîm nhw.