Talwyd teyrngedau heddiw i filwr o ogledd Cymru gafodd ei ladd wrth frwydro’r erbyn y Taliban.

Lladdwyd yr Is-gorpiral Alan Cochran, 23, o Lanelwy, yn ystod brwydr yn erbyn milwyr y Taliban yn Nahr-e Saraj, Helmand, dydd Gwener.

Cafodd y Corporal Terry Webster, 24, o Gaer, hefyd ei ladd yn ystod y frwydr.

“Roeddwn i’n drist iawn pan glywais i am farwolaethau Terry Webster ac Alan Cochran. Roedd y ddau’n filwyr ymroddedig ac yn hapus i wasanaethu dros eu gwlad,” meddai’r Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox.

Ychwanegodd fod Alan Cochran yn ddyn “dewr oedd wedi ei barchu ac oedd yn arwain o’r blaen”.

“ Mae’n amlwg bod Webster yn filwyr dewr, brwdfrydig a proffesiynol oedd yn ysbrydoli pawb o’i amgylch,” meddai.

“Ni fydd aberth y ddau ddyn yma yn cael ei anghofio.”


Teyrnged y teulu

Dywedodd mam Alan Cochran, Shirley ei fod o’n “fab gwych”.

“Roedd o’n browd o fod yn soldiwr ac fe fuodd o farw yn gwneud beth oedd o’n ei garu. R’yn ni wedi torri’n calonnau wrth golli Alan, oedd yn fab, ŵyr a brawd cariadus.

“Rydan ni’n falch bod Alan yn fodlon gwneud ei ddyletswydd wrth helpu pobol Afghanistan.”

Dywedodd dyweddi Alan Cochran, Claire Brookshaw ei fod o “wedi bod yn rhan fawr o fy mywyd ac fe fydd o erioed. Fydda’i byth yn ei anghofio fo.”

Roedd ei brawd Ian Brookshaw hefyd yn y fyddin a dywedodd ei fod o’n “falch ei fod o wedi cael y cyfle i frwydro wrth dy ochor di am bedair blynedd”.

“Fe fuest ti farw yn gwneud y swydd oeddet ti’n ei garu ac wrth helpu milwr arall oedd wedi ei anafu.”

Dywedodd yr is-gyrnol Andrew Hadfield bod Alan Cochran newydd ennill dyrchafiad a’i fod o’n barod i gymryd cyfrifoldeb dros fywydau’r dynion eraill.

“Roedd Alan yn caru’r fyddin a’i ffrindiau oedd yn y fyddin, ac roedd o bob tro’n edrych ar ôl y lleill ac yn eu helpu nhw i roi eu gorau,” meddai.

“Mae ei ffrindiau yn dweud fod ganddo galon o aur, a’i fod o’n hollol anhunanol.”