Mae Arlywydd Afghanistan wedi galw am adolygu achos pob aelod honedig o’r Taliban sy’n cael eu dal yng ngharcharau’r wlad.

Dywedodd y dylai pob un sy’n cael ei ddal ar dystiolaeth simsan gael ei ryddhau.

Y dyfarniad oedd ymateb cyntaf yr Arlywydd Hamid Karzai i gynhadledd heddwch yr wythnos diwethaf oedd yn ystyried ffyrdd o ddod a rhyfel naw mlynedd y wlad i ben.

Un o argymhellion y gynhadledd oedd bod pob un a ddrwgdybir o fod yn aelod o’r Taliban oedd yng ngharcharau Afghanistan neu’r Unol Daleithiau yn cael ei ryddhau os nad oedd hi’n bosib profi’r honiadau yn ei erbyn.

Galwodd Hamid Karzai ar swyddogion o’r weinyddiaeth cyfiawnder i adnabod carcharorion “sydd yn y carchar heb ddigon o dystiolaeth” a threfnu iddynt gael eu rhyddhau.