Mae Rwsia wedi annog yr Unol Daleithiau i wneud mwy i reoli cynhyrchiad cyffuriau yn Afghanistan, a hyd yn oed wedi cynnig ffurfio “wal” diogelwch o amgylch y wlad.
Dywedodd Dirprwy Brif Weinidog Rwsia, Sergei Ivanov yn Singapore bod cyffuriau Afghanistan yn fygythiad i ddiogelwch a heddwch rhyngwladol.
Ychwanegodd mewn cynhadledd diogelwch yn Sefydliad Astudiaethau Strategol Rhyngwladol Llundain bod gwrthryfelwyr a grwpiau mafia rhyngwladol yn gwneud biliynau o gyffuriau’r wlad.
Mae Afghanistan yn darparu 90% o opiwm y byd, y prif gynhwysyn mewn heroin.
Mae’r Cenhedloedd Unedig wedid dweud fod y Taliban yn gwneud elw o $300 miliwn y flwyddyn drwy werthu opiwm.