Non Tudur sy’n blogio o’r Gelli Gandryll…
5.30pm – Tom Stoppard ddim hanner mor eglur a pharod ei barabl ag Amis. Bler ei wallt brithog a chroen llwydaidd, ond cawsom gipolwg ar feddwl dramodydd deallus, toreithiog.
Mi hoffai sgwennu barddoniaeth ond nid yw’n medru sgwennu’r math o farddoniaeth fase fe’n licio. ‘I sent a poem to Larkin once. Honestly,’ meddai, gan gywilyddio.
Mae wrthi yn sgrifennu drama ar hyn o bryd ‘with great difficulty. Had a few thoughts, which are dry, not juicy, emotional things.’
Son am ei ddiffyg gwybodaeth am bethe mawr – ‘the great thing about being a playwright … is you don’t have to know much at all, and you look ok.’
Cael ei lofnod i’w ddwy ddrama The Real Thing a Rock’n’Roll yn y siop lyfrau, ond dim cyfle i ddal ei sylw am sgwrs. Fe’n becso fwy am allu gweld ei ffrindiau wedi’r sesiwn, edrych i ffwrdd, hyd yn oed wrth ysgwyd ei law. Fel trio ysgwyd llaw a Saunders Lewis medd rhywun.
Ar ol coffi tu allan i roi Stoppard a’r byd yn ei le, troi am adre, a’r car yn llawn llyfrau a bagiau Guardian, poteli dwr ar eu hanner, a meddyliau prysur.
4pm – Pabell lawn, yn eiddgar i weld un o ser yr wyl eleni – Tom Stoppard. A’r babell i gyd wedi talu £25…
3.40pm – John Davies yn falch bod ‘hen begor’ fel fe ar y rhestr fer gyda rhai o’n ser llenyddol ifainc.
Hefyd, yn dweud bod hi’n ”siom” nad yw’ cyhoeddiad y Rhestr Fer yn rhan o brif raglen yr wyl, fel y gwnaeth yr awdur Jon Gower yn Golwg ddydd Iau.
Ond john Davies yn credu bod hi’n well cael y digwyddiad ddiwedd wythnos yr wyl, nag ar y dechrau, er mwyn i’r awduron y rhestr hir gael sylw.
Swyddog Academi yn dweud nad penderfyniad yr Academi oedd peidio cael digwyddiad y Rhestr Fer yn rhan o’r brif raglen. Rhai awduron oedd wedi cael siarad ar lwyfan (fel yr oedd y drefn yn arfer bod) yn y gorffennol ddim yn gallu siarad yn gyhoeddus gystal a hynny.
3.30pm – Pobl yn synnu bod beirniad y rhestr Saeneg, Ian Gregson, wedi dweud ei bod hi’n arwyddocaol bod digwyddiad Cymreig fel Llyfr y Flwyddyn yn Lloegr h.y., ddim yn gwybod bod y Gelli Gandryll yng Nghymru. A fynte’n ddarlithydd prifysgol Cymru…
3.03pm – Luned Emyr sy’n cyflwyno; mewn ffrog bert, lliw rhosyn pinc. Tybed beth fydd y drafodaeth nawr dros lasied (am ddim o win)…
2.55pm – Aled Lewis Evans yn son am y 3 llyfr heb enwi’r awduron. Eitha amlwg pwy ydyn nhw o’r disgrifiadau. Ro’n i’n anghywir am un. Nid nofel Sian Melangell sydd yma, ond un Caryl Lewis – Naw Mis, yn cymryd ei lle gyda cherddi Hywel Griffiths, a 100 lle John Davies (sy’n eistedd mewn siwt syber ddu wrth f’ochr).
2pm -Mae datganiad Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn am 2.30. Hmm… Dechrau amau, wedi gweld Dr John Davies (ar y rhestr hir am ei lyfr difyr y 100 lle i’w gweld cyn marw), Hywel Griffiths (ei gasgliad o gerddi hefyd arni), a Sian Melangell yn crwydro’r maes. Ai dyma’r tri, neu a wyf fi am fwyta fy het?
1.35pm – Y lle’n teimlo dipyn mwy gwag heddiw, ond y wefr o ‘be chi’n ei weld nesa’?’ yn dal yn gryf. Zadie Smith yn siarad am 2.30, ond wedi penderfynu ei hosgoi achos mi wnes i osgoi gorffen ei nofel ‘fawr’ White Teeth. Ac mae Amis wedi rhoi gormod o borthiant i’r ymennydd ta beth. Am fentro i’r dre am y tro cynta’, i weld beth fydd gan Booth, brenin y Gelli, i’w ddweud am yr wyl a’i ffyddloniaid, sy mor niferus erbyn hyn.
1pm – Y tu fas yn trafod pa mor ddifyr oedd Amis, a son am eisie prynu recordiad o Amis petai’n bosib. Meddwl am ei sylwadau ar heneddio a sgwennu; roedd yn annog pobl i ddarllen y Concise Oxford Dictionary yn ddeddfol fel fe achos ‘vocabulary shrinks after a certain age.’
Son bod eisie bod yn ‘monstrous egotist’ i sgwennu nofelau achos bod rhaid i nofelwyr fod yn ‘Everyman.. and has to speak for everyone. It’s a tremendously arrogant proposition.’
Diddorol oedd ei farn ar fywydau personol llenorion – ‘writers’ lives don’t really matter only insofar as it allows them to write their books.’ Ac ar drio sgwennu am ryw mewn ffordd hunangofiannol – ‘it sounds disgusting when you do.’
Clywed pawb yn ei drafod yn y lle coffi wrth y fynedfa awr yn hwyrach. Mae wedi creu argraff ar yr wyl. Y Cymro Peter Florence, trefnydd yr wyl, oedd yn ei holi – ei ddawn i wneud hynny yn ddigyffwrdd erbyn hyn; mae e’n deall sut i drin ei westeion.
11.55am – Martis Amis yn arddangos ei fedrau i chwarae gyda syniadau a geiriau mor gelfydd a ffraeth… Rhaid i fenywod reoli’r byd, meddai, os nad ydan ni am fyw mewn ‘permanent peril.’ Ei ddisgrifiadau o fynd yn hen yn rhagorol. ‘At 45, you have the first vision of mortality… You think, death will not ignore me… At 65, you feel death is already intrigued. This cannot turn out well.’
11.35 – Amis yn dechrau trwy ddarllen o’i nofel ‘The Pregnant Widow’. Dweud ei fod yn falch bod nol yng Nghymru; ‘I was a Taff til I was 12’, ei fagu yn Abertawe.
11.30 – mewn yn aros i Fartin Amis ddod i lwyfan y Barclays Wealth Pavilion. Pam dim Bacrlays Overdraft Pavilion wn i ddim. Y lle’n llenwi, gymaint a sesiwn Antonia Fraser – gweddw Harold Pinter -am 5.30pm ddoe. Honno wedi swyno pawb a’i chymeriad a straeon am ei pherthynas gariadlon a’r diweddar ddramodydd, a’i ‘causes’ dibendraw – achos Nicaragua ac ati.
11am – Nol ar faes yr wyl am y trydydd tro’r wythnos yma .Wedi aros mewn gwely a brecwast yn Kington, ryw 11 milltir i’r gogledd o’r Gelli dros grib Hergest (‘Hargest’ yn ol y bobol leol), ar odre Clawdd Offa. Dim lle mewn unrhyw lety yn y Gelli; ond un wedi argymell Southbourne, twt, glan a chwaethus. Clywed am rai wedi gorfod aros uwchben bwyty Thai yn Llangamarch. Prynu Observer, er mwyn cael y sach liain am ddim gydag e – wedi cael un bob blwyddyn ers tair blynedd nawr. Handi iawn i nol neges.
Sadwrn
4.30pm – Y lle’n dipyn tawelach na’r penwythnos diwetha, ar wyl y banc. Ond yn gallu teimlo dan ei sang pan fydd y tyrfeydd yn gadael y pebyll. Sawl un ry’n ni wedi siarad a nhw wedi bod yn gwrando ar Rose Tremain yn gynharach p’nawn yma. Y cyn-newyddiadurwr Max Hastings wrthi ar hyn o bryd yn y babell tu ol i ni.
3.45pm – Ciw hyd pabell ond chwim ei lif at floc toiledau’r menywod. Pobol yn gwgu a grwgnach er nad oedd yr oedi’n hwy na dwy fmhunud, a’r llefydd mor la^n a thwt. Prints Monet uwch yr orsedd goeliwch chi. Meddwl bod hi’n annheg bod mamau prysur yr Urdd yn gorfod ciwio ugain munud am ddau gwt sinc yng nghornel maes yr Urdd wythnos yma.
3.41yp – Newydd adael sesiwn Matt Ridley. Hynod ddifyr. Dadl geidwadol i raddau. ‘We could build multistorey farms the size of Wales’.
1.45yp – Yn dwym iawn yma. Hetiau gwellt ar bob copa walltog. Dipyn o Gymraeg i’w glywed yng nghanol y môr o Saesneg.
1.15yp – Talu £6 i fynd i wrando ar rywun dy’n ni erioed di clywed amdano, Matt Ridley ‘The Rational Optimist’. Yn ôl y blurb, sgwennwr gwyddoniaeth nad yw’n meddwl bod y ddyfodol yn ddu i’r blaned. Eisie gwybod beth sy wedi peri iddo i fynd yn erbyn y llif.
1yp – Cinio yn ddrytach na’r Urdd; soup a rol pys a mintys yn £5, a thaten trwy’i chrwyn yn £6. Tybed pwy sy wedi talu £25 am y ‘festival feast’ i loddesta yng nghwmni rhai o sgwennwyr gwadd yr wyl?
11.30yb – David Nobbs yn arwyddo copi o’i hunangofiant i mi. Dweud bod ei fam o Abertawe “so I am half Welsh… but cannot speak the language, unfortunately.” Dyn greddfol ddigri, hynaws. Yn ffan ohono, yn ddi-os, ers gwrando arno’n siarad heddiw.
10.30yb – Coe: “There’s a condenscension about comedy in this country.” Ac ar y ffaith bod pobol yn astudio’i nofel yn y colegau: ”a bit like being in a psychiatrist’s chair sometimes”. Sôn am ei hoffter o ddramau teledu digri, a’i fod wedi dysgu llawer am ddeialog trwy wylio Porridge a The Likely Lads. Y dorf yn ei dyblau drwy gydol y sgwrs – fel y Babell Lên adeg darlleniadau John Ogwen o straeon Harri Parri. Dw i am brynu llyfr David Nobbs.
9.50yb – Cynnig ein tocyn i’r stiward gwallt brith tu fas i’r Guardian Stage. Hwnnw’n codi gwên, ac yn gwneud sylw: “Madam, I’m not worthy to take your ticket. Keep it with you ‘til the door.” I mewn â fi i wrando ar y nofelwyr ‘comig’ Coe a Nobbs; label y deallwn wedyn nad yw Nobbs (a sgrifennodd gyfresi teledu The Rise and Fall of Reginald Perrin) yn hoff ohono mwyach. “I write books about characters we care about… they become my friends,” meddai.
9.30yb – Cyrraedd y maes, eistedd ar sedd wiail yn llowcio croissant almwnd a cappuccino cyn sesiwn Jonathon Coe a David Nobbs am 10. Dafydd Wigley yn cerdded heibio mewn siwt hufen smart. Tybed beth sy’n ei ddenu? Darlith y Gweinidog Treftadaeth ar gestyll Edward I yn y gogledd am 1yp, ynteu Melvyn Bragg yma yr un pryd?