Mae mam yn yr Unol Daleithiau wedi dod o hyd i’w phlant ar Facebook ar ôl iddyn nhw ddiflannu 15 mlynedd yn ôl.

Roedd tad y plant, Faustino Utrera, wedi rhedeg i ffwrdd gyda nhw yn 1995 pan oeddent nhw’n ddau a phump mlwydd oed, meddai’r heddlu.

Daeth y fam o California o hyd i dudalen Facebook ei merch ar ôl chwilio am ei henwi ar wefannau cymdeithasu ym mis Mawrth.

Daethpwyd o hyd i’r ddau yn Florida ac mae’r heddlu yn dweud bod y ferch 17 oed a’i brawd 16 oed bellach dan warchodaeth y wladwriaeth.

“Fe allech chi ddychmygu sut mae hi’n teimlo, ar ôl peidio gweld ei phlant am gymaint o flynyddoedd a gwybod eu bod nhw bellach yn rhan o deulu arall,” meddai’r twrnai rhanbarthol Kurt Rowley.

“Ond ar yr un pryd maen nhw bron a bod o fewn ei gafael hi.”

Arestiwyd Faustino Utrera fis diwethaf ar ôl i fam y plant gysylltu gyda nhw. Cafodd ei gyhuddo o herwgipio.