Mae cwmni BP wedi eu beirniadu’r llym yn yr Unol Daleithiau am dalu am hysbyseb sy’n ymddiheuro am achosi’r trychineb amgylcheddol fwyaf yn hanes y wlad.

Ffrwydrodd Platfform Olew Deepwater Horizon y cwmni ar 20 Ebrill ac mae’r clwt olew o’r bibell sy’n gollwng bellach yn ymestyn o arfordir Louisiana i Florida.

Mae’r hysbysebion radio, teledu, ar-lein a phrint yn cynnwys Prif Weithredwr BP, Tony Hayward, yn addo trwsio’r broblem.

Dywedodd y byddai’r cwmni “yn gwneud eu gorau i sicrhau nad ydi hyn byth yn digwydd eto”.

Mae’r Arlywydd Barack Obama wedi beirniadu’r hysbyseb gan ddweud y dylai’r arian gael ei wario ar lanhau’r olew a rhoi iawndal i bysgotwyr a pherchnogion busnesau bychan yn lle.

Mae nifer wedi colli eu swyddi o ganlyniad i’r clwt olew sydd wedi lladd bywyd gwyllt a dal twristiaid yn ôl rhag ymweld â’r ardal.

Ymatebodd llefarydd BP, Robert Wine, “nad oedd ceiniog” o’r arian sydd wedi ei glustnodi ar gyfer glanhau’r olew wedi ei wario i dalu am yr hysbysebion.

“Mae pob adnodd sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio,” meddai. Mae BP yn amcangyfrif y bydd angen gwario tua £84 miliwn er mwyn digolledu’r rhai sydd wedi colli swyddi ac elw o ganlyniad i’r clwt olew.