Mae’r Ceidwadwyr yn yr Alban wedi lansio comisiwn i weld pam eu bod nhw mor amhoblogaidd yno.
Er bod y Ceidwadwyr wedi cipio seddi newydd ar draws Cymru a Lloegr yn yr etholiad ar 6 Mai dim ond un AS sydd ganddyn nhw yn yr Alban o hyd.
Bydd y comisiwn gan yr Arglwydd Sanderson o Bowden, oedd yn weinidog yn llywodraeth Margaret Thatcher, yn edrych ar “strwythur a gweithgareddau” y blaid yn yr Alban.
Mae yna bryder mawr ymysg y Ceidwadwyr ynglŷn â’r diffyg cynnydd yr Alban, yn enwedig ar ôl y llwyddiant cymharol yng Nghymru.
Roedd polau piniwn cyn yr Etholiad Cyffredinol hefyd yn awgrymu y byddai cynnydd yn nifer y bobol fyddai’n cefnogi annibyniaeth i’r Alban pe bai’r Ceidwadwyr yn rheoli o San Steffan.
Efallai yn ymwybodol o hynny mae’r Prif Weinidog David Cameron wedi penodi aelod o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol fel Ysgrifennydd Gwladol yr Alban.
Fe fydd yr adolygiad hefyd yn edrych ar arweinyddiaeth Annabel Goldie, sydd wedi ei beirniadu’n llym ar ôl methiant y blaid yno ar 6 Mai.
Cyhoeddwyd y comisiwn mewn cyfarfod oedd yn cynnwys tua 100 o Geidwadwyr blaenllaw yng Nghlwb Royal Scots Caeredin.
‘Yr un hen atebion’
Ond mae rhai Ceidwadwyr eisoes yn anhapus gan ddweud y byddai’r comisiwn yn amddiffyn arweinwyr presennol y Ceidwadwyr yn yr Alban ac yn atal y blaid rhag symud ymlaen.
“Dydw i ddim yn credu bod yr adolygiad yma a’r ffordd y mae o wedi ei sefydlu am fynd i’r afaelyn ddigon cyflym gyda rhai o’r problemau mae’r blaid yn ei wynebu,” meddai un Ceidwadwr blaenllaw wrth bapur newydd y Scotsman.
“Gyda’r un hen wynebau [ar y Comisiwn] rydw i’n meddwl bod yna bryder y bydden nhw’n cynnig yr un hen atebion.”
Er gwaethaf pryderon ynglŷn ag arweinyddiaeth Annabel Goldie mae hi’n debyg o fod yn saff tan Etholiadau Senedd yr Alban mewn deg mis.
Os nad ydi’r Ceidwadwyr yn yr Alban yn gwneud cynnydd sylweddol bryd hynny mae hi’n debygol o wynebu her i’w harweinyddiaeth.