Mae athrawon wedi drysu ynglŷn â beth i ddysgu i blant mewn gwersi addysg grefyddol, yn ôl arolygwyr.
Yn ôl adroddiad gan Ofsted i addysg grefyddol yn Lloegr mae’r gwersi wedi dirywio dros y tair blynedd diwethaf a dim ond dealltwriaeth elfennol o gerfydd sydd gan blant.
Doedd ysgolion ddim yn siŵr faint o bwyslais i’w roi ar Gristnogaeth, ac roedd disgyblion yn fwy anoddefgar o grefyddau eraill mewn ysgolion ble’r oedd gwersi addysg grefyddol o safon isel.
Edrychodd yr adroddiad ar 94 ysgol gynradd a 89 ysgol uwchradd rhwng Ebrill 2006 a mis Mawrth 2009.
Roedd y gwersi addysg grefyddol mewn un o bob pump o’r ysgolion yn “annigonol” meddai’r arolygwyr. Yn 2007 dim ond un ym mhob 10 oedd yn annigonol.
Roedd newidiadau diweddar i’r curriculum hefyd wedi cael effaith negyddol ar wersi addysg grefyddol, meddai nhw.
“Er bod nifer o athrawon yn frwdfrydig ynglŷn â’r pwnc, doedd safon yr addysg grefyddol ddim yn ddigon da,” meddai’r adroddiad.