Mae un o’r ymgeiswyr ar gyfer arweinyddiaeth y Blaid Lafur wedi cyfaddef bod gormod o fewnfudo yn ystod llywodraeth y Blaid Lafur wedi taro cyflogau ac amodau gwaith “gormod o bobol”.
Pwysleisiodd Ed Balls bod yn rhaid i’r blaid gyfaddef ei fod o wedi gwneud smonach o rai pethau a galw am warchod swyddi gweithwyr Prydeinig pe bai’r Undeb Ewropeaidd yn ymestyn eto.
Mae ei sylwadau yn mynd ymhellach na gweinidogion eraill wrth gyfaddef fod y cyhoedd yn anhapus ynglŷn â lefelau mewnfudo o’r Undeb Ewropeaidd.
Y dybiaeth yw bod y mater wedi arwain at gwymp mewn cefnogaeth i’r Blaid Lafur ymysg y dosbarth gweithiol yn Etholiad Cyffredinol 6 Mai.
Mewn erthygl ym mhapur newydd yr Observer, pwysleisiodd Ed Balls, oedd yn gyfaill agos i’r cyn Brif Weinidog Gordon Brown, ei fod o’n “gryf o blaid Ewrop”.
“Mae dyfodiad mewnfudwyr ifanc, sy’n gweithio’n galed, o ddwyrain Ewrop wedi dod a budd economaidd mawr dros y chwe blynedd diwethaf,” meddai.
“Ond mae o hefyd wedi cael effaith go iawn ar gyflogau ac amodau gwaith gormod o bobol – cymunedau nad oedd yn barod ar gyfer globaleiddio, gan gynnwys yr un ydw i’n ei gynrychioli.
“Wrth i’r Blaid Lafur geisio adennill ffydd pobol Prydain, mae’n bwysig ein bod ni’n agored ynglŷn â’n methiannau.”